homess1

Cadw’n brysur

Mae gan Benrhyn Llŷn, sydd i'r gorllewin o Eryri, olygfeydd arfordirol godidog. Yn wir, fel y byddwch yn darganfod, mae Penrhyn Llŷn yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau at ddant pawb. Mae llawer o weithgareddau ar gael yn lleol gan gynnwys cartio, beicio cwad, a saethyddiaeth!

Dair milltir o Fodwrog mae Abersoch, tref glan môr boblogaidd ar arfordir deheuol Penrhyn Llŷn sy’n edrych dros Ynysoedd Tudwal. Yma mae paradwys chwaraeon dŵr gyda’r traeth arobryn, harbwr prydferth ac ystod ardderchog o fwytai arbenigol. Mae prydferthwch hudol Llanbedrog ac Aberdaron gerllaw.

Mae Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig ac mae Bodwrog yn lleoliad delfrydol ar gyfer darganfod prydferthwch Penrhyn Llŷn.

"...Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig..."

  • Mae Chwaraeon Dŵr ar gael gan gynnwys:
    • Syrffio – yn arbennig yn Abersoch ac Aberdaron
    • Hwylio – ym mhob man, yn arbennig Pwllheli ac Abersoch
  • Gwylio adar – mae’r clogwyni trawiadol yn gartref i’r frân goesgoch prin, yn ogystal â’r hebog, y gigfran a nythfa o garfilod (auks)
  • Cildraethau Pysgota – Nefyn a Phorthdinllaen
  • Golff – cyrsiau yn: Cricieth, Pwllheli, Abersoch, Nefyn
  • Marchogaeth – gan gynnwys Cilan, Afonwen a stablau Snowdonia Riding Centre

Ar gyfer y diwrnodau teulu ar y traeth, mae nifer o draethau tywod ar Benrhyn Llŷn, gan gynnwys: Cricieth, Pwllheli, Abersoch, Llanbedrog (1.5 milltir o Fodwrog), Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor (mae’r tywod yn chwibanu o dan draed ar ddiwrnod sych!), Nefyn neu Borthdinllaen gyda’r dafarn enwog ar y traeth.

"..ar gyfer y diwrnodau gwlyb..."

Yn ardal Llanbedrog mae Canolfan Gelfyddydau Plas Glyn-y-Weddw, plasty gothig rhestredig Gradd II* o Oes Fictoria sydd ag arddangosiadau parhaus a chyrsiau celf.

Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae Canolfan Hamdden amlbwrpas Pwllheli

Castell Cricieth (CADW) – castell sy’n sefyll yn gadarn ar benrhyn creigiog. Cartref yr hufen iâ gorau yng Ngogledd Cymru.

Amgueddfa Goffa Lloyd George, Llanystumdwy – cartref plentyndod y gwleidydd David Lloyd George.

Plas yn Rhiw (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Rhiw ger Pwllheli – Plasty bach o’r 16eg ganrif.

Neuadd Talhenbont ger Pwllheli – tŷ (adeiladwyd ym 1607 ac yn ôl rhai mae’n gartref i ysbrydion) a gerddi.

Ynys Enlli – cyn safle pererindod grefyddol (mae 20,000 o seintiau wedi’u claddu yno). Bellach yn warchodfa natur.

"...a llawer, llawer mwy..."